Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo arweinydd Plaid Cymru o beidio a gofyn cwestiynau digon caled i Mark Drakeford yn ystod sesiynau holi’r Prif Weinidog yn y Senedd.
Yn ol arweinydd y grwp Ceidwadol ym Mae Caerdydd dydy Adam Price ddim wedi bod yn dal y llywodraeth i gyfrif ar ol i Blaid Cymru ffurfio cytundeb cydweithio gyda Llafur.
Dywedodd cyn-weinidog Llafur hefyd ei bod hi’n “anochel” bod Mr Price fod yn fwy “gwyliadwrus” o ganlyniad i’r trefniant.
Dywedodd Plaid Cymru fod ei ASau yn parhau i wrthwynebu’r llywodraeth yn “gryf” ar faterion lle maen nhw’n anghytuno.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price fis Tachwedd diwethaf eu bod wedi dod i gytundeb i gydweithio ar ddwsinau o feysydd polisi ym Mae Caerdydd dros dair blynedd.
Daeth y cytundeb ar ol i Lafur fethu a sicrhau mwyafrif yn etholiad diwethaf y Senedd.
Ar y pryd dywedodd Mr Price y byddai ei blaid yn “yn cydweithio lle bo modd tra’n parhau i wrthwynebu a chraffu a beirniadu lle bo angen”.
Fodd bynnag sawl mis yn ddiweddarach, dywedodd arweinydd y grwp Ceidwadol yn y Senedd Andrew RT Davies ei bod “yn amlwg” nad oedd Plaid wedi bod yn craffu ar y llywodraeth “o dan y cytundeb cydweithio”.
Mae ei blaid wedi beirniadu Adam Price am ddefnyddio ei amser yn ystod sesiynau holi’r Prif Weinidog i ymosod ar Lywodraeth y DU neu godi materion nad sy’n rhan o gyfrifoldeb gweinidogion Cymreig.
“Yng Nghymru mae gennym ni un o bob pump o bobl ar restr aros, yn anffodus mae ein strwythur cyflogau yma yng Nghymru wedi gweld pobl yn cymryd llai o gyflogau adref na rhannau eraill o’r DU oherwydd polisiau economaidd Llywodraeth Cymru, rydym wedi colli nifer enfawr o ddiwrnodau ysgol oherwydd y pandemig,” meddai Mr Davies wrth raglen Politics Wales y BBC.
“Mae yna ystod eang o bethau y dylid herio’r Prif Weinidog yn eu cylch yn hytrach na’r hunan-longyfarch sy’n ymddangos fel petai’n digwydd ar hyn o bryd.”
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Liz Silversmith fod ton cyfraniadau Mr Price yn ystod y y sesiynau holi wedi bod yn “llawer mwy cyfeillgar”.
Dywedodd y cyn-weinidog Llafur Andrew Davies, fu’n rhan o’r glymblaid Llafur-Plaid gafodd ei ffurfio ar ol etholiad 2007 wrth y rhaglen: “Yn anochel, os oes gennych chi 46 o feysydd polisi lle rydych chi’n datblygu polisi ar y cyd a Llafur Cymru yna mae’n debyg bod hynny’n golygu bod yn rhaid i chi fod yn wyliadwrus naill ai yn y cwestiynau rydych chi’n eu gofyn ar y meysydd polisi hynny neu’n ehangach.”
Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd cadeirydd grwp Plaid Cymru yn y Senedd Llyr Gruffydd: “Os oes rhywun yn meddwl ein bod ni ddim yn craffu ar waith y llywodraeth, dy’n nhw’n amlwg ddim yn gwrando ar beth sy’n digwydd yn y Senedd.
“Os y’ch chi ddim ond yn edrych ar y cwestiynau i’r Prif Weinidog wel ry’ch chi ddim ond yn ystyried canran fechan iawn, iawn, iawn o’r gwaith sy’n digwydd yn y Senedd ac wrth gwrs falle’n dewis a dethol enghreifftiau lle mae Adam Price yn codi materion yn ymwneud a San Steffan.
“Mae yna lu o enghreifftiau eraill lle mae e’n codi materion domestig sy’n gwbl berthnasol hyd yn oed os ydych chi ddim yn siwr os ydy’r gweddill yn deall hynny.
“Os ydych chi’n canolbwyntio ar sesiynau Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn unig, rwy’n meddwl eich bod yn colli mwy na thebyg 95% o’r gwaith sy’n mynd ymlaen yn y Senedd a mwy, ond dydwi ddim yn teimlo bod unrhyw newid penodol wedi bod mewn naws nac agwedd.
“Yn y meysydd hynny lle rydyn ni’n gwrthwynebu ac yn anghytuno, rydyn ni’n dal i wrthwynebu ac anghytuno’n gryf.
“Mae yna ddigonedd o enghreifftiau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf lle rydyn ni wedi bod yn ymosodol o ran herio’r llywodraeth.
“Beth mae’n ei ddweud am ein gwleidyddiaeth nad yw pobl yn hapus os nad ydyn ni’n ymladd fel cathod mewn sach?”
Dywedodd cyn-wleidydd Plaid Cymru Nerys Evans y byddai’n disgwyl gweld strategaeth gan Blaid Cymru i wahaniaethu’i hun rhag Llafur.
“Dydyn ni ddim wedi gweld hynny eto, ond rwy’n disgwyl i hynny ddigwydd,” ychwanegodd.
Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones: “Mae mesurau eisoes wedi’u rhoi ar waith i sicrhau tegwch i bob Aelod yn y Senedd o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa i wneud yn siwr bod y Senedd yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn effeithiol ar ran pobl Cymru.”
BBC Politics Wales and BBC One Wales. 1000 Sul 3 Gorffennaf ac yna Ar iPlayer.