Her eithaf y byd rygbi sy’n wynebu Cymru’r haf hwn gyda thair gem brawf oddi cartref yn erbyn De Affrica – pencampwyr y byd.
Does braidd neb yn disgwyl llwyddiant i Gymru ar sail eu perfformiad diwethaf – colli gartref yn erbyn Yr Eidal am y tro cyntaf erioed.
Mae De Affrica yn ffefrynnau clir cyn y prawf cyntaf yn Stadiwm Loftus Versfeld yn Pretoria ddydd Sadwrn ond oes yna lygedyn o obaith i’r Cymry?
Ar bapur bydd Cymru yn dim cryfach na’r un a gollodd 23-18 yn erbyn De Affrica fis Tachwedd y llynedd.
Roedd Cymru heb sawl chwaraewr pwysig ar y diwrnod hwnnw pryd sgoriodd y Springboks yn hwyr i gipio buddugoliaeth.
Gyda George North a Taulupe Faletau yn holliach mae gan dim Wayne Pivac ddau chwaraewr profiadol a thalentog yn dychwelyd.
Dangosodd Faletau ei allu naturiol gyda pherfformiadau gwych ar ol anaf yn erbyn Lloegr a Ffrainc yn y Chwe Gwlad eleni, tra bod North wedi profi ffitrwydd ac wedi perfformio’n galonogol ddiwedd y tymor i’r Gweilch.
Mae prif hyfforddwr De Affrica, Jaques Nienaber, yn cydnabod bod rhaid i’w dim fod yn wyliadwrus o North sydd, meddai, yn chwaraewr “rhyfeddol”.
Mae gan Gymru olwyr peryglus gan gynnwys rhai o’r chwaraewyr mwyaf bygythiol yn y byd gyda’r bel yn eu dwylo.
Mae’r tri ol – Liam Williams, Louis Rees-Zammit a Josh Adams – yn enwedig a’r gallu i ddatgloi amddiffyn ystyfnig y Springboks.
Mae gem gicio’r tim cartref mor gywir fel arfer ond mi fydd yna gyfle i Gymru wrthymosod ar adegau ac yn yr heulwen ar yr Highveld, bydd angen i olwyr Cymru danio a sgorio ceisiau er mwyn rhoi unrhyw obaith.
Gyda’r ddwy gem gyntaf ar ucheldir yr Highveld yn Pretoria a Bloemfontein a’r bel yn teithio ym mhellach drwy’r aer tenau, bydd hi’n hanfodol i Gymru ennill y frwydr gicio.
Un o gryfderau pennaf Dan Biggar yw ei gicio tactegol ac mi fydd angen iddo fe geisio llywio’r chwarae a sicrhau bod Cymru’n cael sylfaen i chwarae yn hanner y gwrthwynebwyr.
Elton Jantjies fydd yn gwisgo’r crys rhif 10 i Dde Affrica yn y prawf cyntaf gyda Hendre Pollard yn cael gorffwys ar ol ymuno’n hwyr a’r garfan yn dilyn ei ymdrechion diweddar i’w glwb Montpellier yn Ffrainc, ac er nad yw yn ddirprwy gwael, bydd Biggar yn sicr yn gobeithio cael y llaw uchaf.
Oes, mae yna dalcen caled yn wynebu Cymru ac ydy, mae hi yn annhebygol y gall y crysau cochion sicrhau buddugoliaeth gyntaf yn eu hanes yn erbyn y Springboks yn Ne Affrica ond mae yna resymau i beidio anobeithio’n llwyr.
Tri phrawf pendant, tri chyfle i greu hanes.