Mae dyn 26 oed wedi cyfaddef achosi marwolaeth dynes ifanc ger Llangollen y llynedd trwy yrru’n ddiofal dan ddylanwad alcohol.
Bu farw Abby Hill, oedd yn 19 oed ac o Acrefair yn Sir Wrecsam, yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Berwyn fis Gorffennaf 2021.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Marcus Pasley, o Lantysilio ger Llangollen, a 93 microgram o alcohol yn ei waed, o’i gymharu a’r lefel gyfreithlon ar gyfer gyrru sef 80 microgram.
Mae’r Barnwr Rhys Rowlands wedi ei rybuddio y bydd yn cael dedfryd o garchar ac mai’r unig beth sydd i’w benderfynu yw hyd y gosb.
Roedd Ms Hill yn teithio mewn Renault Clio pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Gwesty’r Chainbridge, ble roedd hi’n gweithio fel gweinyddes.
Cafodd ei chludo i ysbyty yn Stoke ble bu farw.
Cafodd Pasley ei ryddhau ar fechniaeth tan 29 Gorffennaf er mwyn i adroddiadau gael eu paratoi cyn y gwrandawiad dedfrydu.
Mae’r llys hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru yn y cyfamser.