Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dathlu carreg filltir arbennig eleni, 75 mlwyddiant. Rhwng 7-10 Gorffennaf bydd miloedd o bobl o ledled y byd yn ymgynnull yn y dref yn Nyffryn Dyfrdwy, a bydd cynulleidfa fyw yn dychwelyd yno wedi dwy flynedd o ddigwyddiadau digidol.
Ers sefydlu’r ‘Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol’ gyntaf yn Llangollen ym mis Mehefin, 1947, mae’r dathliad o ‘Heddwch a Harmoni’ wedi ei sefydlu ei hun fel un o wyliau cerddorol mawr y byd.
Prif bwrpas sefydlu’r Eisteddfod oedd i greu pontydd yn dilyn dinistr yr Ail Ryfel Byd, ac i helpu i hyrwyddo heddwch parhaol.
Ond roedd y gwaith cynllunio ar gyfer yr wyl wedi dechrau yn 1943 wrth i Harold Tudor o Goedpoeth, a oedd yn gweithio i’r Cyngor Prydeinig, drefnu ymweliad ar gyfer aelodau o lywodraethau-mewn-alltud yn ystod Yr Ail Ryfel Byd ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mangor. Roedd gwneud hyn yn dipyn o lwyddiant ac erbyn 1946 roedd y cynlluniau yn eu lle ar gyfer y digwyddiad cyntaf.
Fe roedd ‘na bryderon na fyddai pobl yn dod i’r wyl mor fuan wedi’r rhyfel, ond fe gododd y cyhoedd PS1,100 – tua PS45,000 yn arian heddiw, er mwyn cynnal yr wyl yn Llangollen, ac fe cafodd gryn dipyn o sylw.
Roedd Eisteddfod Ryngwladol 1947 yn fwy o lwyddiant na’r hyn oedd y trefnwyr yn ei ddisgwyl. Daeth cystadleuwyr o 10 gwlad dramor i Langollen, gan ymuno a thua 40 cor o Gymru, Lloegr a’r Alban.
Yn ystod y blynyddoedd nesaf cynyddodd nifer y gwledydd a gymerodd ran.
Erbyn 1953, pan ymwelodd y Frenhines Elisabeth II a’r Eisteddfod fel rhan o’i thaith drwy Gymru ar ol y coroni, roedd cantorion a dawnswyr o 32 gwlad wedi cystadlu yn Llangollen.
Ac wrth i’r 1950au fynd ei flaen roedd gwyl wirioneddol ryngwladol wedi cael ei chreu.
Mae perfformiad Luciano Pavarotti yn Llangollen yn 1995 yn enwog, ond fe ganodd y tenor byd-enwog yno flynddoedd maith cyn yr achlysur honno.
Yn 1955 roedd y Pavarotti ifanc yn aelod o gor Corale Rossini o’i dref enedigol, Modena, gyda’i dad yn arwain. Enillodd y cor y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth corau meibion.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa fe ddywedodd Pavarotti mai perfformio yn Llangollen yn 1955 oedd digwyddiad pwysicaf ei yrfa, ac fe ysbrydolodd hyn iddo fod yn ganwr proffesiynol.
Uchafbwynt y cystadlu heddiw yw cystadleuaeth fawreddog Cor y Byd, yr enillydd yw cor gorau’r wyl. Yn 2005 fe ychwanegodd Luciano Pavarotti ei enw at y gystadleuaeth i gydnabod ei werthfawrogiad o’r wyl a’i dylanwad ar ei yrfa.
Nid Pavarotti yw’r unig seren opera i berfformio yn Llangollen. Fe wnaeth ei gyd-denoriaid o’r triawd enwog hefyd ganu yno.
Canodd Jose Carreras yn Llangollen yn 1968, ei ymddangosiad gyntaf ym Mrhrydain ac un o’i gyntaf tu allan i Sbaen, ac am yr ail waith yn 2007.
Fe wnaeth Placido Domingo hefyd ganu yno yn 1968, a dyma oedd un o’i ymddangosiadau cyntaf erioed yn canu fel tenor.
Er mai cantorion yw’r rhan fwyaf o’r ser sydd wedi perfformio yn Llangollen – mae arweinwyr corau a cherddorfeydd nodedig, offerynwyr, dawnswyr a llenorion hefyd wedi perfformio yno.
Roedd y falerina fyd-enwog Margot Fonteyn yn un a berfformiodd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Un o ffefrynnau’r wyl yw’r canwr opera o Bant Glas, Syr Bryn Terfel.
Fe gystadlodd Bryn Terfel yno fel hogyn ifanc, ac yna aeth nol i wneud perfformiadau arbennig yn 1990 ac yn 1996.
“Mae gen i atgofion gwych o Langollen fel artist ifanc yn cystadlu yno a dychwelyd wedyn i berfformio yn y cyngherddau gyda’r nos – wedi fy ysbrydoli bob amser gan y ffaith fy mod i’n dilyn yn ol troed artistiaid gwirioneddol wych,” meddai.
“Dychwelais fy hun i’r pafiliwn ar gyfer perfformiadau o Tosca gan Puccini a Sweeney Todd gan Stephen Sondheim.”
Roedd Eisteddfod 2007 yn cynnwys perfformiadau gan Jose Carreras, Joan Baez, a Hayley Westenra.
Yn 2008, cafwyd perfformiadau gan Elaine Paige, All Angels, ac Alfie Boe, ac y flwyddyn ganlynol roedd perfformiadau gan Barbara Dickson, Syr Willard White, Blake, a Natasha Marsh, gyda sioe drawiadol James Bond 007 yn cynnwys Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, fel diweddglo ar y nos Sul.
Yn 2010 cafwyd perfformiadau gan Katherine Jenkins a Nigel Kennedy, gyda Lulu, Russell Watson, Faryl Smith, Ruthie Henshaw a McFly yn porfformio yn 2011.
Yn 2012 bu’r Eisteddfod yn gartref i Lesley Garrett, Alison Balsom, Nicola Benedettii a Sian Edwards mewn cyngerdd dathlu Jiwbili Diemwnt y Frenhines.
Cafwyd ymddangosiadau hefyd gan Alfie Boe, Steffan Morris, a Valentina Nafornta, a pherfformiad o waith newydd Karl Jenkins The Peacemakers gan gor torfol a ffurfiwyd yn arbennig yng nghwmni Cerddorfa Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Daeth yr wythnos i ben gyda Chyngerdd Terfynol Mawreddog gyda Fflur Wyn, Wynne Evans, Mark Llewelyn Evans, John Owen-Jones a Richard Balcombe.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r cyngerdd nos Sul wedi newid i lwyfannu cerddoriaeth mwy ‘poblogaidd’. Gan ddechrau gyda McFly yn 2011, mae cyngherddau dilynol wedi cynnwys UB40, Status Quo a’r Manic Street Preachers.
Hefyd wedi ymddangos mewn cyngherddau yn Eisteddfod Llangollen dros y blynyddoedd mae Alicia Markova, Joan Sutherland, Dennis O’Neil Angela Georghiu, Kiri Te Kanawa, Fou Ts’ong, Yehudi Menuhin, Margaret Price, Jehudi Menuhin, Lesley Garrett, James Galway, Michael Ball a Montserrat Caballe.
Mae tua 4,000 o berfformwyr bellach yn cymryd rhan yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen bob blwyddyn, a dros 50,000 yn ymweld a’r dref i fwynhau’r cyffro.
Dros y blynyddoedd amcangyfrifir bod dros 400,000 o gystadleuwyr o dros 140 o genhedloedd wedi perfformio yn Llangollen.
Hefyd o ddiddordeb: