Mae nifer yr ail gartrefi yng Ngwynedd wedi gostwng, yn rhannol oherwydd treth newydd sydd ceisio mynd i’r afael a’r broblem ail gartrefi, medd y cyngor sir.

Yn ol y ffigyrau diweddaraf, roedd yna 4,720 o ail gartrefi yn y sir, o’i gymharu a 5,098 y llynedd.

Y llynedd fe benderfynodd y cyngor i godi’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi o 50% i 100%, yn sgil ofnau bod pobl leol methu fforddio i brynu tai yn eu cymunedau.

Dywedodd llefarydd bod y polisi’n “gweithredu fel gwrthanogaeth i fod yn berchen ar, neu brynu ail gartref yn yr ardal”.

Mae’r cyngor hefyd yn dweud bod y gostyngiad o 7.4% yn sgil ceisiadau gan berchnogion i ailddosbarthu eu heiddo’n unedau gwyliau hunan-arlwyo.

Mae Gwynedd ar hyn o bryd yn codi premiwm 100% yn achos 3,746 o gartrefi. Mae yna bremiwm 100% hefyd yn siroedd Abertawe (ar 1,284 o gartrefi), a Phenfro (3,794).

Mae cynghorau Ynys Mon, Dinbych a Sir Y Fflint yn codi premiwm o 50% ar hyn o bryd, a 25% yw’r premiwm yn Sir Conwy.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Llafur, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bolisi newydd fel rhan o cytundeb cydweithredu’r ddwy blaid, sy’n rhoi’r hawl i awdurdodau lleol reoli niferoedd ail gartrefi a chartrefi gwyliau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod “yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu mesurau newydd i reoli nifer y cartrefi gwyliau yn yr ardal”.

Dywedodd y cyngor mai’r bwriad yw “atal perchnogion ail gartrefi rhag newid statws eu heiddo i osgoi talu’r premiwm treth cyngor a chynyddu nifer y tai sydd ar gael i bobl leol am bris fforddiadwy”.

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru hefyd yn amlygu darlun cymysg ymhlith cynghorau eraill sy’n codi premiwm treth cyngor o 100% ar ail dai yng Nghymru.

Yn Sir Benfro, fe gododd nifer yr ail gartrefi o 4,068 yn 2021/22 i 4,216 eleni.

Ond roedd yna ostyngiad yn Sir Abertawe yn yr un cyfnod – o 2,104 i 1,585.

Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mai “megis rhan o’r broblem dai” yw ail gartrefi.

Mae’r mudiad ymgyrchu’n galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl leol “a’r hawl i gartref ac yn cael eu blaenoriaethu”.

Dywedodd cadeirydd grwp cymunedau cynaliadwy’r Gymdeithas, Jeff Smith: “Mae yna gefnogaeth ymhlith y cyhoedd i fesurau o’r fath.”