Fore Iau, wedi cryn bwysau, fe ymddiswyddodd Boris Johnson fel arweinydd y Ceidwadwyr – ond fe fydd yn parhau yn brif weinidog y DU nes bod arweinydd newydd wedi ei ddewis.
Mae’n gadael Stryd Downing wedi llai na thair mlynedd wrth y llyw – er i’w blaid ennill mwyafrif helaeth yn etholiad cyffredinol 2019.
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio dywedodd y cyn-ymgeisydd seneddol Tomos Dafydd fod y cyfan yn rhyddhad.
Dywedodd ei fod yn “mawr obeithio y gallwn ni fel Plaid Geidwadol ethol arweinydd a’r weledigaeth a’r angerdd yn fwy na dim i fynd i’r afael a’r heriau enfawr ‘ma sy’n ein hwynebu ni – er enghraifft, yr argyfwng costau byw, yr helynt yn Wcrain”.
“Mae sialensiau aruthrol yn wynebu’r prif weinidog nesaf,” meddai.
Wedi i arweinydd y Ceidwadwyr gamu o’i swydd, mae’n rhaid dod o hyd i arweinydd newydd.
Mae’r rheolau presennol yn nodi bod yn rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth wyth Aelod Seneddol Ceidwadol er mwyn bod yn y ras.
Os oes mwy na dau AS Ceidwadol yn y ras fe fydd ASau Ceidwadol yn cynnal cyfres o bleidleisiau hyd nes mai dim ond dau ymgeisydd sy’n weddill.
Pan mai dim ond dau AS sy’n weddill, mae aelodau o’r Blaid Geidwadol ar draws y DU – nid dim ond ASau – yn pleidleisio dros eu dewis o arweinydd.
Pwyllgor 1922 – sef pwyllgor o ASau o’r meinciau cefn – sy’n nodi’r amserlen ac fe allai’r pwyllgor hwnnw newid y rheolau cyn i’r ras gychwyn.
Bydd y sawl sy’n ennill y ras i arwain y Ceidwadwyr yn dod yn arweinydd y blaid ac yn brif weinidog.
Nid o reidrwydd.
Pan mae prif weinidog yn ymddiswyddo, does dim rhaid cael etholiad cyffredinol.
Yr hwyraf y gall etholiad cael ei gynnal yw Ionawr 2025 – ond fe allai’r prif weinidog newydd ddewis galw etholiad cyn hynny.
Y disgwyl yw y bydd Mr Johnson yn parhau fel prif weinidog tan yr hydref.
Mae hyn yn arferol – fe wnaeth Theresa May a David Cameron barhau yn brif weinidogion wedi iddynt ymddiswyddo.
Ond petai Mr Johnson yn dymuno gadael yn syth, fe allai’r Frenhines benodi arweinydd dros dro – aelod o’r Cabinet fwy na thebyg – nes bod arweinydd newydd wedi cael ei ddewis.
Ond y mae hynny yn sefyllfa anarferol.
Ar hyn o bryd does dim olynydd amlwg – ond mae nifer o rai posib.
Yn y gorffennol mae cyn-weinidogion o’r Cabinet, Jeremy Hunt a Sajid Javid wedi sefyll am yr arweinyddiaeth ac o bosib y byddant yn dewis gwneud eto.
Ymgeiswyr posib eraill:
“Dwi’n meddwl bod digon o ymgeiswyr cymwys fedrith gamu i’r adwy,” ychwanegodd Tomos Dafydd.
“Dwi’n edrych ymlaen i weld y rhestr hir o ymgeiswyr a rhinweddau’r ymgeiswyr hynny.
“O’m safbwynt i mae yna rinweddau sy’n gwbl allweddol. Ma’ isio gweledigaeth ac agenda bolisi uchelgeisiol a beiddgar – mae taer angen rhywun sy’n cyfathrebu’n effeithiol ac i ryw raddau rhywun oedd yn cyfathrebu fel roedd Boris yn medru ‘neud – er ei holl wendidau.
“Ar ei orau roedd e’n medru apelio at bobl mewn ffordd na wnaeth arweinwyr cyn hynny.”
Tan ei fod yn ymddiswyddo mae gan y prif weinidog, Mr Johnson, yr un pwerau ond does ganddo ddim yr un awdurdod i gyflwyno polisiau newydd radical.
Fe fydd yn parhau i gynrychioli y DU tramor ac mae’n gallu parhau i wneud penodiadau cyhoeddus a newid ei dim o weinidogion.
Un o’i ddyletswyddau olaf, mae’n debyg, fydd urddo marchogion a phenodi pobl i Dy’r Arglwyddi fel rhan o’i restr anrhydeddau wrth ymddiswyddo.