Bydd deddfau newydd arfaethedig i wahardd amrywiaeth o blastigau untro, gwella ansawdd aer a diwygio cymorth amaethyddol yn cael eu rhoi gerbron y Senedd dros y flwyddyn nesaf, yn ol Prif Weinidog Cymru.

Bydd biliau hefyd ar ddiogelwch tomenni glo ac i symleiddio’r broses ar gyfer cytuno ar brosiectau seilwaith mawr.

Dywedodd Mark Drakeford fod gan y cynlluniau “uchelgeisiol… ffocws clir ar ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach Cymru”.

Beirniadodd y Ceidwadwyr gynllun i ehangu’r Senedd.

Dywedodd arweinydd y Toriaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, fod “rhuthro” cynigion i godi nifer gwleidyddion Bae Caerdydd o 60 i 96 “yn dangos mor allan o gysylltiad yw gweinidogion Llafur”.

Wrth groesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar y cyfan, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price ei fod yn “edrych yn denau iawn o’i gymharu a’r rhaglenni deddfwriaethol a welwn yn yr Alban”.

Cafodd y cynlluniau i ddiwygio’r Senedd, sydd hefyd yn newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd, eu datgelu gan Mr Drakeford a Mr Price ym mis Mai ac fe’u cefnogwyd gan gynhadledd arbennig Llafur Cymru y penwythnos diwethaf.

Yn ystod trydedd flwyddyn Llywodraeth Cymru a etholwyd ym mis Mai 2021, bydd bil i ailwampio’r diwydiant bysiau a allai yn y pen draw arwain at un rhwydwaith i fysiau ac un system docynnau ledled Cymru.

Bydd deddfwriaeth, meddai gweinidogion, i wella’r ffordd y codir y dreth gyngor i’w gwneud yn decach, hefyd yn cael ei chyflwyno’r flwyddyn honno.

Ychwanegodd y prif weinidog: “Mae gennym agenda ddeddfwriaethol lawn o’n blaenau wrth inni osod y sylfeini tuag at y Gymru yr ydym am ei gweld.

“Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr i sicrhau bod ein deddfwriaeth y gorau y gall fod a’i bod yn gwella bywydau pobl Cymru gyfan.”